Canfyddiadau adroddiad blynyddol ein Prif Arolygydd.
Mae ein hadroddiad blynyddol yn amlinellu ein gwaith trwy’r flwyddyn.
Dylid darllen cyfeiriadau at 'Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru' (AGGCC) yn y dogfennau ar y dudalen hon fel 'Arolygiaeth Gofal Cymru'.
Cofrestru ac ddatgofrestru
- Cofrestru 466 o wasanaethau newydd
- Cau neu ddatgofrestru 501 o wasanaethau
Arolygu
- Cyflawni 4492 o arolygiadau ac ysgrifennu adroddiad ar bob gwasanaeth - mae adroddiadau ar gael yn gyhoeddus ar ein gwefan. Roedd hyn yn cynnwys 284 o arolygiadau ychwanegol mewn ymateb i bryderon gan bobl eraill, sy’n rhagori gan 7% ar ein rhaglen arolygu arfaethedig ar gyfer gwasanaethau a reolir
Gorfodi
- Cyflwyno 1,303 o hysbysiadau o ddiffyg cydymffurfio i 343 o wasanaethau a gwnaethom nodi fod 57 o wasanaethau yn 'wasanaethau sy'n achosi pryder'.
- Ar 1 Ebrill 2013, roedd gennym 18 o 'wasanaethau sy’n peri pryder' ar agor a oedd wedi'u nodi yn y flwyddyn flaenorol. Yn ystod 2013-14, gwnaethom nodi fod 57 o wasanaethau pellach yn 'wasanaethau sy’n peri pryder’. Cwblhawyd camau mewn perthynas â 49 o'r gwasanaethau hyn, ac roedd:
- 24 o wasanaethau wedi cyflawni gwelliant;
- 13 o wasanaethau naill ai wedi cael eu datgofrestru neu'n gorfod cynnig gwasanaeth cyfyngedig;
dau wasanaeth wedi derbyn hysbysiad gorfodi; - naw gwasanaeth nad oeddent wedi cael eu cofrestru, ac o'r rhain gwnaeth tri gofrestru a chyrraedd cydymffurfiaeth, peidiodd pedwar â gweithredu mwyach, ac yn dilyn archwiliad gwelwyd nad oedd yn rhaid i ddau gofrestru;
- Cafodd archwiliadau troseddol eu lansio yn achos un gwasanaeth.
Gwasanaeth sy’n peri pryder
- Ar 31 Mawrth 2014 roedd 26 'gwasanaeth sy’n peri pryder' yn parhau ar agor.
Adroddiadau ar awdurdod lleol
- Gwnaethom gwblhau gwerthusiad o adrannau gwasanaethau cymdeithasol pob un o'r 22 awdurdod lleol.
- Gwnaethom barhau i fonitro Gwasanaethau Plant Cyngor Castell-nedd Port Talbot o dan brotocol pryderon difrifol.
Adolygiad cenedlaethol
- Gwnaethom ymgymryd ag arolygiad cenedlaethol o wasanaethau plant pob awdurdod lleol mewn perthynas â phlant sy'n derbyn gofal.
- Gwnaethom gynnal adolygiad o gomisiynu, gan gynnwys pum awdurdod lleol.
- Gwnaethom arolygu’r Gwasanaeth Cynghori a Chynorthwyo Llys i Blant a Theuluoedd yng Nghymru (CAFCASS Cymru).
Lawrlwytho dogfennau
- File size:2 MB