Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn

Adolygiad cenedlaethol o gartrefi gofal i bobl sy'n byw gyda dementia

Ystyriodd ein hadolygiad y gofal a gafodd pobl sy'n byw gyda dementia mewn cartrefi gofal yng Nghymru a sut y cawsant eu cefnogi yn ystod y cyfnod pwysig hwn yn eu bywydau.

Mae'r adroddiad hwn yn cyd-fynd â'n hadolygiad cenedlaethol o atal a hyrwyddo annibyniaeth i oedolion hŷn.

Cefndir

Gwnaethom gynnal ymweliadau arolygu mewn 164 o gartrefi gofal a siarad gyda phobl sy'n byw gyda dementia a'u teuluoedd am y gofal y maent yn ei gael. Gwnaethom hefyd siarad gyda chomisiynwyr a darparwyr gwasanaethau cartrefi gofal.

Ein canfyddiadau

  • Gwelsom fod pobl sy'n byw gyda dementia yn cael gofal gan staff sy'n gynnes ac yn barchus, ac sy'n darparu gofal yn unol â'u cynlluniau gofal. 
  • Mewn nifer bach o gartrefi, gwelsom fod y gofal yn cael ei ruthro.
  • Roedd staff yn cael hyfforddiant ar ddementia ond nid oedd hyn bob amser yn golygu bod pobl yn cael gofal yn y ffordd orau bosibl.
  • Gwelsom y gellid gwella llesiant a gofal y bobl drwy wneud gwelliannau i'r cartref.
  • Yn gyffredinol, roedd teuluoedd yn gadarnhaol iawn am y gofal, y staffio a'r rheolaeth yn y cartrefi gofal. Gwnaethant ddweud bod y staff yn ofalgar ac yn groesawgar, ac roeddent yn canmol y bwyd. Dywedodd teuluoedd wrthym fod angen gwella'r amrywiaeth o weithgareddau sydd ar gael i bobl, lefelau staffio, a'r amgylchedd.   
  • Gwelsom fod pobl sy'n byw gyda dementia yn gallu cael gafael ar wasanaethau gofal iechyd ond yn aml nid oeddent yn cael diagnosis o'u dementia yn ddigon buan.
  • Gwelsom y gellid gwella'r ffordd y mae grwpiau gwahanol o bobl yn cydweithio, yn enwedig pan fydd cleifion yn gadael yr ysbyty.
  • Gwelsom fod meddyg neu fferyllydd yn cadarnhau'r feddyginiaeth a roddir i bobl mewn tua 90% o gartrefi gofal a bod aelodau o staff yn edrych i weld pa effaith roedd y feddyginiaeth yn ei chael ar bobl.
  • Dywedodd darparwyr fod un o bob pedwar o bobl sy'n byw gyda dementia yn cael meddyginiaeth wrthseicotig ar bresgripsiwn. Mewn tua thri chwarter o'r achosion, roedd cyfarfod wedi'i gynnal i edrych ar y defnydd o'r feddyginiaeth hon. Mae angen gwneud mwy o waith i edrych ar y ffordd y caiff yr adolygiadau hyn eu cynnal.
  • Roedd pobl sy'n byw gyda dementia yn cael eu cefnogi i gael cymorth iechyd meddwl arbenigol.
  • Byddai prosesau mwy effeithiol o dderbyn a rhyddhau cleifion o'r ysbyty yn helpu cartrefi gofal.
  • Gwelsom gartrefi gofal yn defnyddio technoleg, gan feithrin cysylltiadau â'u cymunedau a chynnal amrywiaeth o weithgareddau creadigol a oedd yn gwella llesiant pobl sy'n byw gyda dementia.
  • Dywedodd darparwyr wrthym mai cadw staff, cymhlethdod dementia a'r effaith ar gartref y bobl sydd angen gofal un i un yw'r prif heriau mewn cartrefi gofal i bobl sy'n byw gyda dementia. Roedd cyllid yn her gyffredin.

Argymhellion

  1. Dewis – mae angen i bobl gael gwybodaeth gliriach am y math o wasanaeth sydd ar gael, a’i leoliad. Mae angen i bobl sy'n trefnu gofal mewn awdurdodau lleol edrych ar y bylchau mewn darpariaeth cartrefi gofal.
  2. Hyfforddiant – mae angen i bobl sy'n darparu gwasanaethau gofal, yn ogystal â'r rheini sy'n eu trefnu mewn awdurdodau lleol, sicrhau bod hyfforddiant yn cynnwys pobl sy'n byw gyda dementia ac sy'n cael gofal.
  3. Amgylchedd – gwnaethom nodi y dylid cynllunio ac adeiladu cartrefi gofal mewn ffordd sy'n rhoi  gofal da, yn seiliedig ar wybodaeth sy'n egluro beth yw gofal da.
  4. Y Gymraeg – dylid gwella'r wybodaeth am sawl aelod o staff sy'n siarad Cymraeg mewn cartrefi gofal; dylai mwy o aelodau o staff fod yn gallu siarad Cymraeg.
  5. Meddyginiaeth wrthseicotig – rydym yn argymell bod grwpiau sy'n ymwneud â rhoi gofal i bobl yn gweithio gyda'i gilydd i wella'r ffordd y caiff meddyginiaeth wrthseicotig ei rhoi a'i gwirio.
  6. Hawliau – mae angen i staff gael hyfforddiant gwell ar hawliau pobl pan fyddant yn cael gofal a chymorth.
  7. Gweithio gyda'i gilydd i roi cymorth – dylid gwella'r cymorth gan wasanaethau iechyd meddwl a'r ffordd y mae pobl yn cyrraedd ac yn gadael yr ysbyty.

Y camau nesaf

Rydym yn ymrwymedig i roi'r argymhellion yn yr adroddiad hwn ar waith, a byddwn yn gweithio gydag eraill i wella'r canlyniadau mewn perthynas â'r gofal y mae pobl sy'n byw gyda dementia yn ei gael mewn cartrefi gofal yng Nghymru