Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn

Ein strategaeth a'n prosiectau

Beth rydym yn awyddus i’w gyflawni a sut rydym yn bwriadu ei wneud dros y pum mlynedd nesaf.

Ein cynllun strategol 2020-2025

Mae ein cynllun strategol yn nodi ein blaenoriaethau dros y pum mlynedd nesaf.

Mae'r cynllun uchelgeisiol hwn yn nodi ein hymrwymiad i roi pobl a'u profiadau wrth wraidd ein gwaith, fel y corff sy'n rheoleiddio ac yn arolygu gwasanaethau gofal cymdeithasol a gofal plant yng Nghymru.

Mae ein cynllun yn canolbwyntio ar dair blaenoriaeth strategol:

  1. Bod yn llais dibynadwy i ddylanwadu ar welliannau a'u llywio
  2. Darparu gwasanaeth o ansawdd uchel yn gyson
  3. Bod yn fedrus ac yn ymatebol

Byddwn yn adolygu'r blaenoriaethau hyn bob blwyddyn er mwyn sicrhau eu bod yn parhau i fod yn berthnasol ac yn adlewyrchu'r amgylchedd rydym yn gweithredu ynddo.

Ein cynllun ymgysylltu ar gyfer 2020-2025

Mae ein cynllun ymgysylltu yn amlinellu ein blaenoriaethau a'n huchelgeisiau ar gyfer sicrhau bod pobl yn ymgysylltu â'n gwaith dros y pum blynedd nesaf.

Ein huchelgais yw meithrin cydberthnasau cadarn ac ymddiriedus â phobl, gan siarad â chynifer o bobl ag y gallwn. Bydd canolbwyntio ar brofiadau pobl a deall sut mae gwasanaethau yn effeithio ar eu bywydau yn ein helpu i wella ansawdd a diogelwch gwasanaethau er lles pobl Cymru.

Mae'r cynllun yn canolbwyntio ar y canlynol:

  • Sut y byddwn yn sicrhau bod pobl yn ymwybodol o'r gwaith rydym yn ei wneud, ac yn deall ein rôl.
  • Sut y byddwn yn cymryd camau i wella'r ffordd rydym yn sicrhau bod pobl yn ymgysylltu â'n gwaith;
  • Sut y byddwn yn rhannu ein gwybodaeth a'n canfyddiadau er mwyn cefnogi gwelliannau.

Byddwn yn gwerthuso ein cynnydd o ran gweithredu'r cynllun hwn bob blwyddyn, gan weithio gyda'r grŵp o bobl a wnaeth ein helpu i'w ddatblygu a'n Bwrdd Cynghori Cenedlaethol.