Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn
  • 25 Medi 2024
  • Newyddion

Dysgwch fwy am ein rhaglen arolygwyr cymheiriaid ar gyfer awdurdodau lleol

Rydym yn ceisio datganiadau o ddiddordeb.

Cefndir

Cyn pandemig, roedden ni’n datblygu rôl ar gyfer arolygwyr cymheiriaid fel rhan o'n gwaith yn arolygu awdurdodau lleol. 

Gwnaethom ymgynghori â'r awdurdodau lleol ac eraill fel rhan o'r gwaith hwn a chynhaliom beilot ar draws tri arolygiad o wasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol rhwng Tachwedd 2019 ac Ionawr 2020.

Roedd gan yr arolygwyr cymheiriaid brofiad o'r ymarfer uniongyrchol a phrosesau rheoli gweithredol a strategol o fewn awdurdodau lleol. Roedd eu cyfraniadau yn werthfawr iawn ac o fudd mawr i'r arolygiadau. 

Tynnodd yr adborth a gafwyd gan yr arolygwyr cymheiriaid ar eu profiad o gymryd rhan yn yr arolygiadau sylw at y manteision cadarnhaol iddyn nhw ac i'r awdurdod lleol sy'n eu cyflogi. Roedd rhai o'r sylwadau yn cynnwys:

“Fe wnes i fwynhau'r cyfle yn fawr. Teimlais fy mod wedi dysgu llawer ac fy mod wedi gallu defnyddio fy sgiliau a'm sail gwybodaeth i gyfrannu at y broses arolygu.”

“Roedd o fudd mawr gallu archwilio canfyddiadau awdurdodau lleol eraill o waith achos, asesiadau cymesur ac, yn anochel, roeddwn yn cymharu arferion ag arferion gweithio fy awdurdod lleol mewn ffordd anffurfiol ac yn nodi meysydd lle gallwn wella.”

“Roedd cael y cyfle i wneud rhywbeth 'gwahanol' o fudd mawr i mi fel unigolyn.”

“Ar lefel bersonol, rwyf wedi cael budd proffesiynol. Mae'r profiad wedi fy helpu i ganolbwyntio ar bwysigrwydd rhoi systemau sicrhau ansawdd ar waith yn ein gwasanaethau. Mae hefyd wedi fy helpu i ystyried pwysigrwydd sicrhau bod cynlluniau clir ar waith er mwyn gweithredu agweddau allweddol ar y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (2014).”
 

Cam dau 

Rydym nawr yn lansio ail gam y peilot ac yn awyddus i gael datganiadau o ddiddordeb gan ymarferwyr ar lefel rheolwr tîm (neu lefel gyfatebol) neu yn uwch, y byddai ganddynt ddiddordeb mewn dod yn arolygydd cymheiriaid. 

Bydd angen i'r pennaeth gwasanaeth / rheolwr llinell perthnasol gymeradwyo unrhyw ddatganiadau o ddiddordeb a gyflwynir a chadarnhau bod yr unigolyn yn meddu ar Dystysgrif Fanylach foddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Unwaith y byddwch wedi trafod gyda’ch pennaeth gwasanaeth neu reolwr llinell, cwblhewch y ffurflen hon (Dolen allanol) erbyn 4 Hydref 2024.

Gallwch ddarllen rhai cwestiynau cyffredin ar waelod y dudalen hon.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau, yna gysylltwch â ni os gwelwch yn dda drwy CIWLocalAuthority@gov.wales.