Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn
  • 8 Medi 2020
  • Newyddion

Ein rhaglen arolygu awdurdodau lleol ar gyfer 2020-21

Byddwn yn arolygu adran gwasanaethau cymdeithasol pob awdurdod lleol rhwng mis Medi 2020 a mis Mawrth 2021, gan gynnwys edrych ar gymorth i blant anabl a phlant sydd wedi cael profiad o ofal.

Yn ystod cyfnod adfer AGC, ni fydd ein tîm arolygu awdurdodau lleol yn ailddechrau ein rhaglen arolygu flaenorol, nac ein cyfarfodydd ymgysylltu arferol ag awdurdodau lleol.

Yn hytrach, hoffem dreialu fframwaith newydd mwy ystwyth sy'n dod yn fwyfwy rhithwir ac ymatebol sy'n canolbwyntio ar risgiau ar gyfer adolygu swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol.

Fel rhan o'n cynllun peilot ar gyfer y math hwn o arolygu, byddwn yn edrych ar y canlynol:

  • pa mor dda y mae awdurdodau lleol yn cadw pobl yn ddiogel ac yn hybu llesiant
  • pa mor dda y mae awdurdodau lleol yn darparu help, gofal a chymorth cynnar a chyfnodau pontio di-dor rhwng gwasanaethau i blant anabl a'u teuluoedd.

Bydd yr arolygiad yn gwerthuso profiad oedolion a phlant, a'r canlyniadau y mae pobl yn eu cyflawni drwy eu cysylltiad â gwasanaethau. 

Byddwn yn chwilio am dystiolaeth sy'n dangos bod awdurdodau lleol a phartneriaid wedi dysgu gwersi o'u profiad diweddar o COVID-19 a'u cynlluniau ar gyfer datblygu gwasanaethau.  

Rydym yn bwriadu mabwysiadu dull gweithredu cydweithredol sy'n seiliedig ar risgiau o ran ein gwaith, gan ddefnyddio dau ddull arolygu gwahanol:

  • arolygiadau byr i werthuso perfformiad a fydd yn arwain at lythyr ffurfiol wedi'i gyhoeddi, neu
  • arolygiadau llawn yn seiliedig ar risgiau a fydd yn arwain at adroddiad ffurfiol wedi'i gyhoeddi.

Bydd y naill ddull arolygu a'r llall yn cynnwys ffocws ar blant anabl, gan ein galluogi i gwblhau'r adolygiad cenedlaethol a ddechreuwyd gennym yn 2019.

Rydym eisoes wedi arolygu awdurdodau lleol Rhondda Cynon Taf, Torfaen, Conwy a Cheredigion mewn perthynas â help, gofal a chymorth cynnar a'r broses bontio i blant anabl a'u teuluoedd.

Rydym wedi ysgrifennu at gyfarwyddwyr gwasanaethau cymdeithasol er mwyn rhoi gwybod iddynt am ein rhaglen newydd, a byddwn yn annog pobl sy'n defnyddio gwasanaethau, yn ogystal â rhieni/gofalwyr plant anabl, i anfon adborth atom fel rhan o'n harolygiadau.

Sut y gallwch gymryd rhan

I anfon eich adborth ar wasanaethau cymdeithasol atom ar unrhyw adeg, ewch i'n tudalen arolygu a chliciwch ar ‘sut y gallwch chi gymryd rhan’, i ddod o hyd i ddolenni i'n harolygon.