Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn
  • 23 Gorffennaf 2020
  • Newyddion

COVID-19: Ein dull o adfer

Wrth i ledaeniad COVID-19 arafu, rydym wedi cyhoeddi ein cynllun adfer heddiw wrth i ni symud o'r cam ymateb i'r cam adfer o 31 Gorffennaf 2020.

Rydym yn cydnabod yr effaith sylweddol y mae'r broses o ymateb i'r feirws wedi'i chael ar bob darparwr dros y tri mis diwethaf a hoffem barhau i feithrin y cydberthnasau cadarnhaol cadarn sydd wedi datblygu, gan gynnwys rhannu gwybodaeth a deallusrwydd yn rheolaidd. 

Nid oes gennym ddyddiad penodol eto ar gyfer pa mor hir y bydd y cam hwn yn para, a byddwn yn parhau i'w adolygu'n wythnosol. Byddwn yn cymryd unrhyw gamau yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru er mwyn helpu i leihau lledaeniad COVID-19.  

Gellir cael gafael ar y cynllun adfer llawn o'r rhestr lawrlwytho isod.