Datganiad ar y cyd ag AGIG: Pwysigrwydd codi llais
Rydym wedi cyhoeddi datganiad ar y cyd ag Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) ar bwysigrwydd codi llais am risgiau a chanlyniadau andwyol.
Rydym yng nghanol argyfwng iechyd na welwyd ei debyg erioed o'r blaen ac rydym am ddiolch i staff iechyd a gofal ledled Cymru am eu hymroddiad, eu gofal a'u gwaith caled wrth fynd i'r afael â'r llu o heriau sy'n eu hwynebu nhw a'r bobl y maent yn gofalu amdanynt.
Gwyddom fod hwn yn gyfnod anodd iawn sy'n achosi straen i bawb, a bydd llawer ohonoch yn pryderu am risgiau cynyddol o niwed anfwriadol i'r bobl sy'n defnyddio gwasanaethau iechyd a gofal, a'r staff sy'n gweithio ynddynt. Mae codi llais yn elfen hanfodol o ddiwylliant diogel a dylai fod yn rhan arferol o waith pawb sy'n gweithio ym maes gofal.
Mae'r fersiwn lawn o’r datganiad ar y cyd ar gael isod, ac mae’n cynnwys canllawiau ar sicrhau bod y gofal cywir yn cael ei ddarparu a sut i roi gwybod am unrhyw faterion sy'n peri pryder i chi.
Ewch i'n tudalen pryderon i gael rhagor o wybodaeth.
Lawrlwytho dogfennau
- File size:298 KB