Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn
  • 23 Mawrth 2020
  • Newyddion

Coronafeirws (COVID-19): Ein dull o ymdrin â cheisiadau Cofrestru ac Amrywio

Er mwyn parhau â'n gwaith cofrestru, rydym wedi addasu rhai o'n prosesau.

Rydym yn cydnabod y bydd angen cynyddu capasiti yn y sector gofal cymdeithasol a gofal plant a chwarae mewn ymateb i argyfwng COVID-19. Er ein bod wedi gohirio ein trefn arolygu arferol, byddwn yn blaenoriaethu gwaith cofrestru ac amrywio ac yn dargyfeirio adnoddau ychwanegol iddo. Bydd y timau cofrestru yn blaenoriaethu meysydd gwaith yn y drefn a amlinellir isod:

  1. Yr holl waith cofrestru ac amrywio sy'n cefnogi darparwyr i ddarparu gwasanaethau o ganlyniad i COVID-19.
  2. Yr holl waith cofrestru ac amrywio a fydd yn dod â chapasiti ychwanegol i'r sector.
  3. Cofrestru gwasanaethau sy'n gweithredu heb gofrestriad.
  4. Cofrestriadau neu amrywiadau risg uchel, er enghraifft, yn ymwneud â phrynu gwasanaethau sydd yn nwylo gweinyddwyr.
  5. Yr holl waith cofrestru ac amrywio arall.

Ymweliadau safle

Ni ddylid cynnal ymweliadau safle oni fydd hynny'n gwbl angenrheidiol ac os nad oes unrhyw ffordd arall o asesu addasrwydd y safle.

Gwiriadau DBS

Byddwn yn mabwysiadu dulliau amgen o wirio manylion adnabod o bell, er enghraifft drwy Skype.

Cyfweliadau

Byddwn yn cwrdd ag ymgeiswyr ac Unigolion Cyfrifol o bell, gan gynnwys cynnal cyfweliadau cofrestru.

Byddwn yn gweithredu mewn ffordd ymarferol a chymesur er mwyn helpu i ddarparu gwasanaethau newydd, ychwanegol neu arloesol i sicrhau bod pobl yn cael y gofal sydd ei angen arnynt o ganlyniad i COVID-19.