Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn

Arolygiad o Wasanaethau Oedolion Hŷn: Cyngor Sir Gâr

Ein canfyddiadau a'n hargymhellion ar gyfer Gwasanaethau Oedolion Hŷn.

Gwnaethom gynnal arolygiad ar y cyd ag Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) (Dolen allanol), gan ystyried pa mor dda mae Cyngor Sir Gâr yn hybu annibyniaeth ac yn atal anghenion oedolion hŷn rhag gwaethygu. 

Canfyddiadau Allweddol

Cryfderau

Llesiant - gwelsom y gall pobl fod yn gynyddol hyderus bod yr awdurdod lleol yn cydnabod mai oedolion yw'r bobl orau i farnu eu llesiant eu hunain.

Pobl – llais a dewis – gwnaethom nodi bod dull rhagweithiol o alluogi pobl i gael gwasanaeth yn eu dewis iaith.

Partneriaethau, integreiddio a chydgynhyrchu – Mae'r Cyngor a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cydweithio ac yn cefnogi annibyniaeth pobl mewn ffordd ymatebol pan fyddant yn profi salwch acíwt.

Atal ac ymyrraeth gynnar – gwelsom fod staff iechyd a gofal cymdeithasol yn cydweithio tuag at weledigaeth gyffredin o ddiwallu anghenion pobl yn y gymuned, gyda ffocws cynyddol ar atal, a hyrwyddo annibyniaeth.

Meysydd i'w gwella 

Llesiant – gwnaethom nodi bod angen sicrhau y caiff gwybodaeth ansoddol am berfformiad ei chasglu ym mhob rhan o'r gyfarwyddiaeth a bod hyn yn rhoi cyfle i ddysgu ym mhob rhan o'r gwasanaeth.

Llais a dewis pobl – mae angen i'r Cyngor sicrhau bod amrywiaeth ddigonol o wasanaethau ar gael i ofalwyr ledled yr Awdurdod Lleol.

Partneriaethau, integreiddio a chydgynhyrchu – rydym yn argymell y dylai fod cydraddoldeb o ran gwasanaethau ym mhob rhan o'r sir.

Atal ac ymyrraeth gynnar – gwnaethom nodi bod angen parhau i gysylltu cymunedau â gwasanaethau drwy ymgysylltu â phobl a phartneriaid er mwyn helpu i atal anghenion rhag gwaethygu.

Y camau nesaf

Mae AGC ac AGIC yn disgwyl i'r awdurdod lleol a'r bwrdd iechyd lleol roi sylw i'r meysydd i'w gwella yn yr adroddiad. Bydd AGC yn monitro cynnydd drwy ei gweithgarwch gwerthuso perfformiad parhaus gyda Chyngor Sir Gâr.

Darllenwch yr adroddiad llawn isod i weld ein holl ganfyddiadau ac argymhellion.