Dilynwch ein calendr Adfent digidol ar y cyfryngau cymdeithasol drwy gydol mis Rhagfyr
Byddwn yn rhannu ein huchafbwyntiau o 2018 a rhai straeon i chi eu mwynhau.
Os nad ydych eisoes yn ein dilyn ar Twitter (Dolen allanol) a Facebook (Dolen allanol), sicrhewch eich bod yn dilyn ym mis Rhagfyr pan fyddwn yn rhannu rhai o’n huchafbwyntiau o 2018.
O newid ein henw, i ailgofrestru cannoedd o wasanaethau o dan ddeddfwriaeth newydd, a phenodi Dirprwy Brif Arolygydd newydd, bu'n flwyddyn brysur i Arolygiaeth Gofal Cymru.
Hefyd, byddwn yn rhannu rhai straeon o'r flwyddyn, sy'n dathlu llwyddiannau ledled Cymru.
Ar 25 Rhagfyr, byddwn yn rhannu ein cerdyn Nadolig digidol, a fydd yn cynnwys gwaith celf nadoligaidd y bobl sy'n defnyddio gwasanaethau gofal.
Diolch am ddilyn a thanysgrifio!